Ac yna adgyfododd Yn ogoneddus iawn; Daeth boreu teg a hyfryd, 'Nol stormus, ddu brydnawn: Y gadwyn fawr a dorodd Ar foreu'r trydydd dydd; Fe goncrodd angeu'i hunan: O'r carchar daeth yn rhydd. I fyny daeth o Edom, A'i wisg yn goch ei lliw; Nis gall'sai un creadur Mewn cadwyn gadw Duw: Fe dorodd rym yr angeu, Agorodd ddrysau'r bedd; Palmantodd ffordd o'r ddaear Yn awr i ganol hedd. Mae'r ffynnon yn agored; Dewch, edifeiriol rai; Dewch chwithau, yr un funud, Sy'n methu edifarhau; Dewch, gafodd galon newydd, Dewch chwithau na chadd un I olchi pob budreddi Yn haeddiant Mab y dyn. O! Iachawdwriaeth gadarn, O! Iachawdwriaeth glir; Fu dyfais o'i chyffelyb Erioed ar fôr na dir: Fe rodd ei fywyd drosom: Beth all ef ballu mwy? Mae myrdd o drugareddau Difesur yn ei glwy'. O! ras didrai, diderfyn, Tragwyddol ei barhâd; Yn nghlwyfau'r Oen fu farw Yn unig mae iachâd; Iachâd oddi wrth euogrwydd, Iachâd o ofnau'r bedd; A chariad wedi ei wreiddio Ar sail tragwyddol hedd. - - - - - Yr Iesu adgyfododd Yn ogoneddus iawn; Daeth boreu teg a hyfryd 'Rol stormus ddu brydnawn; Y gadwen fawr a dorodd, Ar wawr y trydydd dydd; Gorchfygodd angeu 'i hunan - O'r carchar daeth yn rhydd. Fe'i gwelir heddyw'n eistedd Ar Ei orseddfaingc fawr, Yn Arglwydd ac yn Geidwad I weiniaid gwael y llawr; Ei Hun mae'n llywodraethu Y dyfnder mawr a'r nef; Terfynau eitha'r ddaear Sydd dan Ei ofal Ef! - - - - - 1,2,3; 1,3,4; 1,4,5. Yr Iesu adgyfododd Yn ogoneddus iawn; Daeth boreu teg a hyfryd 'Rol 'stormus ddu brydnawn: Y gadwyn fawr a dorodd, Ar wawr y trydydd dydd; Gorchfygodd angeu'i hunan - O'r carchar daeth yn rhydd. Er gwaetha'r maen a'r milwyr, Do, cododd Iesu'n fyw; Daeth yn ei law alluog A phardwn dynolryw: Gwnaeth etifeddion uffern Yn etifeddion nef; Fy enaid byth na thawed A chanu iddo Ef. [MR] I fyny daeth o Edom, A'i wisg yn goch ei lliw, Nis gall'sai un creadur Mewn cadwyn gadw'm Duw; Fe dorodd rym yr angeu, Agorodd ddrysau'r bedd; Palmantodd ffordd o'r ddaiar I ganol glwad yr hedd. Mi welaf yn ei fywyd Y ffordd i'r nefoedd fry, Ac yn ei angau'r taliad A roddwyd trosof fi; Yn ei esgyniad gwelaf Drigfannau pur y nef A'r wledd drag'wyddol berffaith, Gaf yno gydag Ef. Mor ddedwydd fydd y boreu! - Pa bryd y gwawria'r dydd, Pan ddelo caethion angeu O'i garchar oll yn rhydd - Yn hardd ar ddelw Iesu, O gyrhaedd pob rhyw wae? Cânt syllu ar ei wyneb, A'i weled fel y mae. [An.]William Williams 1717-91 MR = Morgan Rhys 1716-79 An. = Anhysbys
Tonau [7676D]: gwelir: Rhan I - O enw ardderchocaf Angylion do'ent yn gysson Er gwaetha'r maen a'r gwylwyr/milwyr Fy Nhad fy addfwyn Iesu Fyth fyth rhyfedd'i'r cariad Gwel ar y croesbren chwerw Mae'r ffynnon yn agored Mae'r fath feddyliau mawrion Mi welaf yn ei fywyd Ni fuasai gennyf obaith Tragwyddol glod i'r Cyfiawn Y corff a ro'ir i orwedd |
And them he rose again Very gloriously; A fair and lovely morning came, After a stormy, black afternoon: The great chain he broke On the morning of the third day; He conquered death itself: From the prison he came free. Up he came from Edom, With his garments red in colour; No creature could In chains keep God: He broke the force of death, He opened the doors of the grave; He paved a way from the earth Now to the centre of peace. The fount is open; Come, repentant ones; Come ye, the same minute, Who are failing to repent; Come, thou who didst get a new heart, Come ye also who got none To wash all filth In the merit of the Son of man. O firm salvation, O clear salvation; What device of its kind was There ever on sea or land: He gave his life for us: What can make him falter any more? There are a myriad of immeasurable Mercies in his wound. O grace unebbing, unending, Eternally enduring; In the wounds of the Lamb who died Alone is there healing; Healing from guilt, Healing from fears of the grave; And love having originated On the basis of eternal peace. - - - - - Jesus rose again Very gloriously; The fair and delightful morning came After a stormy, black afternoon; The great chain he broke, At dawn on the third day; He overcame death itself - From the prison he came free. He is to be seen today seated On His great throne, As Lord and as Saviour For the abject weak ones of the earth; He Himself is governing The great depth and heaven; The extreme boundaries of the earth Are under His care! - - - - - Jesus rose again Very gloriously; A fair and delightful morning came After a stormy, black afternoon: The great chain he broke, At the dawn of the third day; He overcame death itself - From the prison he came free. Despite the stone and the soldiers, Yes, Jesus arose alive; He brought in his hand power And pardon for humankind: He made the heirs of hell Into the heirs of heaven; May may soul never cease To sing unto Him. Up he came from Edom, With his garments red in colour, No creature could In a chain keep my God; He broke the force of death, He opened the doors of the grave; He pave a way from the earth To the centre of the land of peace. I see in his life The way to heaven above, And in his death the payment He gave for me; In his ascension I see The pure residences of heaven And the eternal, perfect feast, I will have there with Him. How happy shall be the morning! - When will the day dawn, When the captives of death come From their prison all free - Beautiful in the image of Jesus, Out of the reach of any woe? They shall get to gaze on his face, And see him as he is.tr. 2016,19 Richard B Gillion |
|